#

Y Pwyllgor Deisebau | 15 Ionawr 2019
 Petitions Committee | 15 January 2019 
 
 
 ,P-05-856: Gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru  

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-856

Teitl y ddeiseb: Gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol.

Mae gwaharddiad ar werthu cŵn bach am elw gan drydydd partïon cael yr enw 'Cyfraith Lucy', ac yn ddiweddar cyhoeddwyd y ffaith iddi gael ei gweithredu yn Lloegr. Mae gan Gyfraith Lucy gefnogaeth y cyhoedd, y cyfryngau a’r pleidiau i gyd, ac rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cyfraith Lucy yng Nghymru fel mater o frys.

Mae tynnu cŵn bach oddi wrth eu mam i'w gwerthu yn creu cŵn sâl, ofnus ag ymddygiad camweithredol yn aml. Dylai cŵn bach gael eu gweld gyda’u mam yn y man lle cawsant eu geni. Mae eu cludo i le gwahanol i’w gwerthu yn niweidio eu lles. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon masnachol yn aneffeithiol o ran atal niwed, felly mae gwaharddiad yn angenrheidiol er lles cŵn bach.

Mae cŵn bridio a gedwir mewn ffermydd cŵn bach yn cael eu cuddio o olwg y cyhoedd ac yn dioddef o flynyddoedd o drawma corfforol a seicolegol yn aml. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon masnachol yn aneffeithiol o ran atal niwed i gŵn bridio, felly mae gwaharddiad ar werthu cŵn gan drydydd partïon yn angenrheidiol er lles cŵn bridio.

Bydd gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon yn cael effaith gadarnhaol ar gŵn bridio, gan sicrhau eu bod yn weladwy ac yn galluogi'r cyhoedd i weithredu ar gyngor arfer gorau i weld y ci bach gyda'r fam yn y man lle cafodd ei eni.

Yn ogystal, mae ffermwyr cŵn bach heb drwydded a smyglwyr cŵn bach anghyfreithlon, yn defnyddio trydydd partïon trwyddedig i werthu eu cŵn bach, gan ei gwneud hi’n bosibl iddynt weithredu o dan y radar a heb i iechyd a lles cŵn bridio a chŵn bach allu cael eu monitro gan awdurdodau lleol. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon yn aneffeithiol o ran atal ffermio cŵn bach a smyglo cŵn bach, felly mae gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon yn angenrheidiol er mwyn diogelu cŵn, cŵn bach a'r cyhoedd, yn ogystal ag atal gweithgarwch troseddol. 

Nid oes unrhyw fanteision lles wrth werthu cŵn bach trwy werthwyr masnachol. Nid yw’r arfer hwn yn gwneud dim heblaw sicrhau bod cŵn bridio yn cael eu cadw rhag llygaid y cyhoedd. Yn ogystal â phryderon lles anifeiliaid, mae gwerthiannau trydydd parti yn creu risgiau ychwanegol ar gyfer iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Mae gwerthiant cŵn bach yn uniongyrchol gan fridiwr neu ganolfan achub ag enw da’n diogelu pob parti trwy sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd. Bydd gwaharddiad ar brynu a gwerthu cŵn bach am elw yn codi safonau iechyd a lles ar gyfer cŵn bridio a chŵn bach, yn ogystal â darparu diogelwch mawr ei angen i’r cyhoedd.

Mae gweithredu Cyfraith Lucy yng Nghymru yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r difrod sydd wedi’i wneud i enw da Cymru, sy'n parhau i gael ei chydnabod fel canolfan ffermio cŵn bach yn y Deyrnas Unedig.

Prif Ddeisebydd: C.A.R.I.A.D

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar wahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon ar 22 Chwefror 2019. Ym mis Awst 2018, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Michael Gove, y bydd gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon yn cael ei gyflwyno yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn dadansoddi'r ymatebion i'w hymgynghoriad diweddar: Banning commercial third-party sales of puppies and kittens in England. Mae'r briff hwn yn rhoi’r cefndir. [OK(CyC|AC1] [OK(CyC|AC2] [OK(CyC|AC3] 

Cyfraith Lucy 

'Cyfraith Lucy' yw'r term a fabwysiadwyd ar gyfer gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a gwerthwyr masnachol trydydd parti eraill. Byddai'r gwaharddiad hwn yn golygu na fyddai siopau anifeiliaid anwes, gwerthwyr anifeiliaid anwes a gwerthwyr cŵn bach trwyddedig eraill yn gallu gwerthu'r anifeiliaid anwes hyn oni bai mai nhw eu hunain sydd wedi eu bridio. Mae'r ymgyrch hon yn seiliedig ar les anifeiliaid; byddai gwaharddiad yn atal cŵn bach rhag cael eu tynnu oddi wrth eu mam a gweddill y dorllwyth yn ifanc i'w gwerthu. Mae'r ymgyrch yn dadlau hefyd fod gwerthu gan drydydd partïon yn creu risgiau ychwanegol i iechyd a diogelwch defnyddwyr a’r cyhoedd (gweler testun y ddeiseb uchod). Rhoddwyd yr enw cyfraith Lucy i’r ymgyrch ar ôl y Sbaengi Siarl Cafalîr o'r enw Lucy, a fridiwyd yn helaeth mewn fferm cŵn bach heb fawr ddim ystyriaeth i’w lles.[OK(CyC|AC4] 

Mae gwaharddiad yn mynd y tu hwnt i reoliadau trwyddedu presennol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (a nodir isod). 

Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) Tŷ'r Cyffredin adroddiad ar les anifeiliaid anwes domestig, a oedd yn cynnwys argymhelliad i wahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon: [OK(CyC|AC5] 

We recommend that the Government ban third party sales of dogs. Dogs should only be available from licensed, regulated breeders or approved rehoming organisations

Gwrthododd Llywodraeth y DU yr argymhelliad ym mis Ionawr 2017, gan gyfeirio at y diffyg eglurder ynghylch gorfodi a datgan ei bod yn cefnogi "trwyddedu cadarn" fel ateb arall. Nododd: [OK(CyC|AC6] 

Given the demand for dogs there is a risk that a ban on third party sales would drive some sales underground, and welfare charities are already concerned about the number of good breeders. We note that a number of established welfare charities with experience and knowledge of the sector have advised against a ban on third party sales. We consider that such a ban has the potential to increase unlicensed breeding in addition to a rise in the sale and irresponsible distribution of puppies, and may be detrimental to our welfare objectives

Ar ôl hynny, cyflwynodd Llywodraeth y DU reoliadau, The Animal Welfare (Licensing of Activities Involving Animals) (England) Regulations 2018, gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Daeth y rheoliadau i rym ym mis Hydref 2018. Maent yn cynnwys system drwyddedu ar gyfer gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon, yn hytrach na gwaharddiad. [OK(CyC|AC7] 

O ran gwaharddiad, ar 14 Rhagfyr 2017, cyflwynwyd cynnig cynnar-yn-y-dydd yn Nhŷ'r Cyffredin ar Gyfraith Lucy a gafodd 89 o lofnodion.  [OK(CyC|AC8] 

Ym mis Chwefror 2018, lansiodd Michael Gove alwad am dystiolaeth ar wahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon. Roedd yr ymgynghoriad yn Lloegr yn unig, a derbyniodd ychydig dros 300 o ymatebion. Darparodd tua 70% o'r ymatebion ddadleuon o blaid gwaharddiad, a darparodd llai na 10% ddadleuon yn erbyn hynny. Codwyd pryderon ynghylch gwerthu gan drydydd partïon megis diffyg cymdeithasoli, risg uwch o glefyd a mwy o broblemau ymddygiadol. Darparwyd tystiolaeth ar yr effaith y byddai gwaharddiad yn ei chael ar y diwydiant anifeiliaid anwes ac a fyddai gwaharddiad o'r fath yn gwella lles anifeiliaid. Teimlwyd hefyd y dylid caniatáu i'r rheoliadau trwyddedu newydd ennill eu plwyf cyn cymryd camau ychwanegol. Awgrymodd amryw o sefydliadau y gallai gwerthwyr trydydd parti geisio cyflwyno eu hunain fel elusennau ailgartrefu er mwyn osgoi’r gwaharddiad.[OK(CyC|AC9] 

Ym mis Mawrth 2018, lansiwyd e-ddeiseb Cyfraith Lucy, sef 'Gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol'.[OK(CyC|AC10] 

Ar 21 Awst, cyhoeddodd Michael Gove y bydd gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon yn Lloegr yn cael ei gyflwyno i helpu i wella safonau lles anifeiliaid. Meddai[OK(CyC|AC11] 

A ban on third party sales will ensure the nation’s much-loved pets get the right start in life. I pay tribute to the Lucy’s Law campaign, spearheaded by Pup Aid, C.A.R.I.A.D., and Canine Action UK, who have fought tirelessly for this step. People who have a complete disregard for pet welfare will no longer be able to profit from this miserable trade.

Ar 22 Awst, cyhoeddodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ymgynghoriad ar gynlluniau i gyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon masnachol[1] yn Lloegr. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi.[OK(CyC|AC12] 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Mae lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli i Gymru. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 gyda’r nod o wella safonau bridio cŵn yng Nghymru. Daeth y Rheoliadau i rym ar 30 Ebrill 2015. Mae Rheoliadau 2014 yn disodli Deddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru ac yn cyflwyno meini prawf lles llymach ar gyfer bridio cŵn. Mae Rheoliadau 2014: [OK(CyC|AC13] [OK(CyC|AC14] 

§  Yn ei gwneud yn ofynnol i drwyddedu bridwyr sy'n cadw o leiaf dair gast fridio ac sydd naill ai'n bridio, yn gwerthu, yn cyflenwi neu’n hysbysebu bridio neu gŵn bach i'w gwerthu o'u heiddo;

§  yn cyflwyno safonau lles llymach ar gyfer sefydliadau bridio;

§  yn ei gwneud yn ofynnol i fridwyr fabwysiadu rhaglenni cymdeithasoli, gwella a chyfoethogi ar gyfer eu hanifeiliaid; ac

§  yn creu cymhareb sy’n isafswm staff i gŵn llawndwf.

Mae yna Amodau Trwyddedu Enghreifftiol (MLCs) penodol a ddatblygwyd gan lywodraeth leol i'w defnyddio yng Nghymru. Mae'r Amodau’n diffinio'r gofal corfforol sydd ei angen ar eist bridio a chŵn bach ac yn cyflwyno gofynion newydd yn ymwneud â chymdeithasoli a chyfoethogi’r amgylchedd gyda’r nod o helpu i sicrhau bod cŵn bach yn cael eu paratoi'n well ar gyfer bywyd mewn lleoliad teuluol.[OK(CyC|AC15] [OK(CyC|AC16] 

Pryderon parhaus ynghylch bridio cŵn

Mae amryw o elusennau lles anifeiliaid yn poeni nad yw'r rheoliadau presennol yn mynd yn ddigon pell i amddiffyn iechyd a lles cŵn, felly maent yn cefnogi gwaharddiad. Mae enghreifftiau’n cynnwys yr RSPCA, y Kennel Club, yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Cartref Cŵn a Chathod Battersea a chanolfan ailgartrefu Mayhew[OK(CyC|AC17] 

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar waharddiad

Yng Nghinio Gala’r RSPCA ar 5 Tachwedd 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig bellach), Lesley Griffiths, y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio yn y Flwyddyn Newydd (2019) ar effaith gwahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon.[OK(CyC|AC18] 

Yr wythnos ganlynol, ar 13 Tachwedd 2018, gwnaeth Lesley Griffiths ddatganiad ar les anifeiliaid yn y Cyfarfod Llawn, gan ailddatgan yr ymrwymiad hwn:[OK(CyC|AC19] 

mae nifer o gydweithwyr wedi codi'r mater o gyfraith Lucy gyda mi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n hanfodol inni fynd i'r afael â gwraidd unrhyw bryderon lles mewn newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ein bod yn cynnal ymgynghoriad cynnar yn y flwyddyn newydd ar y broblem bwysig hon

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gofynnwyd i Lesley Griffiths am gyfraith Lucy yng nghyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) ar 4 Hydref 2018. Meddai:[OK(CyC|AC20] 

In relation to Lucy's law…I think we've seen far too much of that horrific practice. So, we've already introduced a number of animal welfare measures, and you referred to—. We've done it before England. I think they've caught us up in lots of respects. So, what I've asked officials to do is to look at this. I think there's a really robust campaign around Lucy's law, and I think it's something that I would want to do.

Aeth Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru, ymlaen i ddweud:

…it's about making sure we have our own rules that dovetail in with England so that we don't create this kind of perverse imbalance, and I think that's about working together. So, we're working very closely with our colleagues, in fact across the whole of the UK, because we know that puppies don't just come across the England-Wales border; we get puppies from Ireland and puppies from Scotland as well

Ar 12 Rhagfyr 2018, cafwyd dadl fer yn y Cyfarfod Llawn ar gyfraith Lucy. Amlygodd Andrew RT Davies AC faint y broblem o ran lles anifeiliaid yn y diwydiant bridio cŵn yng Nghymru: [OK(CyC|AC21] 

Yn anffodus, mae Cymru bellach wedi cael enw fel man lle ceir llawer o'r arferion ffiaidd hyn, gyda nifer sylweddol o ffermydd cŵn bach wedi'u lleoli yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Mewn gwirionedd, yn ardal wledig de-orllewin Cymru y ceir y crynodiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig o fridwyr cŵn masnachol, ac mae'n ffaith adnabyddus anffodus fod yr ardal honno wedi bod yn cynhyrchu llif o gŵn bach mewn amodau ofnadwy

Aeth ymlaen i ddweud:

Mae nifer o grwpiau anifeiliaid, megis yr Ymddiriedolaeth Cŵn a Diogelu Cathod yn cefnogi gwaharddiad, a dylai fod yn llawer haws ac yn llawer rhatach na system drwyddedu wedi'i thagu gan fiwrocratiaeth a diffyg adnoddau.

Ymatebodd Lesley Griffiths i'r ddadl:

Nid oes dim yn atal symud anifeiliaid anwes a fagwyd yng Nghymru i rannau eraill o'r DU ac i'r gwrthwyneb. Felly, pe baem yn edrych ar un cam yn y gadwyn yn unig, rwy'n credu y byddem yn colli cyfle mewn gwirionedd i sicrhau newid parhaol ac effeithiol iawn. Rhaid inni hefyd sicrhau na pheryglir lles anifeiliaid mewn sefydliadau bridio o ganlyniad i unrhyw newidiadau da eu bwriad. Mae'r broses ymgynghori yn gwbl allweddol i hyn, ac nid wyf am achub y blaen ar ei chanlyniadau drwy drafod manylion hynny heddiw. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ac yn gofyn am dystiolaeth i'n helpu i greu darlun llawn o gadwyn gyflenwi cŵn a chathod bach, lle ceir pryderon o ran lles yn y gadwyn, a hefyd sut y gallai newid polisi neu ddeddfwriaeth ddatrys y pryderon hynny.

... Nid wyf am ddiystyru unrhyw opsiynau sydd ar gael i ni, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n gysylltiedig â gwerthiannau trydydd parti. Rwy'n ymrwymedig i hyn a gallaf ddweud heddiw y caiff yr ymgynghoriad 12 wythnos ei lansio ar 22 Chwefror...

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y briff hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r briffiau hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Yn wahanol i fridio cŵn, nid yw bridio cathod yn cael ei reoleiddio ar hyn o bryd.


 [OK(CyC|AC1]bilingual

 [OK(CyC|AC2]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC3]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC4]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC5]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC6]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC7]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC8]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC9]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC10]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC11]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC12]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC13]http://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2015/1843/contents/made

 [OK(CyC|AC14]Dim Cymraeg

 [OK(CyC|AC15]https://beta.llyw.cymru/bridio-cwn-cynllun-cymdeithasolir-cwn-bach?_ga=2.185054889.1832557482.1544449273-1976894983.1536829980

 [OK(CyC|AC16]https://beta.llyw.cymru/bridio-cwn-cynllun-cyfoethogir-amgylchedd?_ga=2.185054889.1832557482.1544449273-1976894983.1536829980

 [OK(CyC|AC17]No Welsh

 [OK(CyC|AC18]bilingual

 [OK(CyC|AC19]bilingual

 [OK(CyC|AC20]bilingual

 [OK(CyC|AC21]bilingual